Hwb Cymunedol Cei Newydd

Hwb Cymuned Ceinewydd, prosiect a ariennir trwy Ddyfodol Gwledig, gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Fe’i datblygwyd ar ôl ymgynghoriad cymunedol helaeth dros y tair blynedd diwethaf, i gyflawni’r canlyniadau canlynol:

  1. Ehangu’r cymorth sydd ar gael i’r aelodau hynny o’n cymuned sy’n ei chael hi’n anodd diwallu eu hanghenion sylfaenol.
  2. Ehangu’r cymorth sydd ar gael i’r aelodau hynny o’n cymuned sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
  3. Creu ymdeimlad o berthyn ac o fod yn rhan o gymuned trwy gydol y flwyddyn.
  4. Cynyddu gwytnwch unigolion ac, wrth wneud hynny, y gymuned gyfan.

Bydd y Ganolfan yn sefydlu rhaglen o weithgareddau newydd yn ogystal â rheoli darpariaeth bresennol wrth ddatblygu rhwydwaith gwirfoddolwyr y Ganolfan. Fel rhan o’n hymagwedd tuag at gyd-gynhyrchu, bydd gweithgareddau newydd yn cael eu datblygu gyda’r gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach o Geinewydd a’r ardal gyfagos.d yn cael eu datblygu gyda’r gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach o Geinewydd a’r ardal gyfagos.

Adroddiad Hwb Cymunedol Cei Newydd 2023-24

Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins